Cardiff Half Marathon Race Brochure 2017 1 | Page 37

GWYBODAETH AM DDIWRNOD Y RAS DYDD SUL 6ed HYDREF Amserau’r Ras Bydd Hanner Marathon Caerdydd Bank Lloyds yn dechrau am 9.00am. Bydd y ras cadeiriau olwyn yn dechrau am 8.50am a bydd y ddwy ras yn dechrau ar Stryd y Castell. Ni chaniateir i bobl sy’n cyrraedd yn hwyr gymryd rhan. Rhif rhedeg a sglodyn amseru ar ôl y ras wrth gy?wyno’ch rhif rhedeg. Dim ond rhedwyr a staff a gaiff ddod i’r ardal hon. Bydd eitemau sydd heb eu casglu ar ôl i’r ardal bagiau gau yn cael eu cadw yn y man gwybodaeth gyffredinol. Y diwrnod wedyn, fe’u cludir i swyddfa Hanner Marathon Caerdydd. Cysylltwch â thîm Hanner Marathon Caerdydd i drefnu i’w casglu yn [email protected] neu ar 029 2166 0790 Rydym yn argymell yn gryf eich bod yn gadael pethau gwerthfawr gartref. Does dim modd dal trefnwyr y ras yn gyfrifol os aiff pethau ar goll. Byddwn yn gwneud ein gorau glas i gadw’ch bagiau’n ddiogel, ond ni fydd yr ardal hon wedi’i chloi. facebook.com/cardiffhalf www.cardiffhalfmarathon.co.uk Bydd eich sglodyn amseru wedi’i blannu yn eich rhif rhedeg. Co?wch ddod â’ch rhif rhedeg gyda chi ar y diwrnod oherwydd does dim modd darparu un arall. Co?wch sicrhau fod eich rhif rhedeg wedi’i binio’n gadarn ac yn glir ar DU BLAEN eich fest neu’ch crys-t ac mae’n hanfodol eich bod yn llenwi’ch manylion argyfwng ar gefn eich rhif. Co?wch: os na fyddwch chi’n gwisgo’ch rhif rhedeg neu os byddwch chi’n croesi’r mat cychwyn, na chaiff eich amser ei gofnodi. Cy?wyno’r Gwobrau Llociau Amseru Bydd seremoni cy?wyno’r gwobrau’n cael ei chynnal am 11.30am wrth ymyl y llinell derfyn. Dylai’r rhai sydd wedi ennill medalau a gwobrau fynd i’r man cy?wyno i gasglu eu gwobr. Bydd gwobrau enillwyr y categorïau oedran yn cael eu postio atynt. Cy?wynir gwobrau i enillwyr y ras ac i fedalwyr Pencampwriaeth Prydain a Phencampwriaethau Cymru. I gael manylion y gwobrau ewch i www.cardiffhalfmarathon. co.uk Bydd lliw eich rhif rhedeg yn cyfateb i’ch amcan amser. A fyddech cystal ag ymgynnull o fewn y llociau lliw a fydd wedi’u harwyddo’n glir wrth ymyl y llinell gychwyn ar Stryd y Castell. Am resymau diogelwch, rhaid i redwyr ymgynnull yn y lloc lliw iawn. Bydd unrhyw ddillad a fydd yn cael eu gadael ar y cychwyn yn cael eu rhoi i elusen. Rhowch ddigon o amser ichi’ch hun gerdded i’r llinell gychwyn ac ymgynnull Dyma’r lliwiau: Gwyn Oren Gwyrdd Melyn Crysau-t i go?o’r digwyddiad Bydd pob rhedwr yn cael crys-t chwaraeon technegol Brooks yn eu bag nwyddau ar ôl gorffen y ras. Bydd y crys-t ar gael mewn pedwar maint: bach, canolig, mawr a mawr iawn. Chwiliwch am yr arwyddion a gwrandewch ar gyfarwyddiadau goruchwylwyr y ras a’r gwirfoddolwyr i wneud yn siÐr eich bod yn codi’r maint iawn. Ni fyddwch yn cael dychwelyd i’r ardal gorffen. @cardiffhalf / #CARDIFFHALF Lle Cadw Bagiau Bydd y lle cadw bagiau ar agor am 7.30 am ym Mhentref y Rhedwyr yn y Ganolfan Ddinesig. Caniateir i bob rhedwr adael un bag yno, a rhaid i hwnnw ddangos y label briodol, sef stribed y gallwch ei rwygo oddi ar waelod eich rhif rhedeg. Rhowch y label yn sownd yn eich bag cyn cyrraedd. Fe allwch chi godi’ch bag Toiledau Bydd sawl set o doiledau o gwmpas y Ganolfan Ddinesig ym Mhentref y Rhedwyr ac ar y ffordd i’r llinell gychwyn. 12 Hanner Marathon Caerdydd Lloyds Bank 2013