Student Mag | Page 4

Beth ydi AIDS?

Caiff Syndrom Diffyg Imiwnedd Caffaeledig ei achosi gan HIV (Firws Diffyg Imiwnedd Dynol) a dyma’r enw ar gam diwethaf y firws. Mae’r firws yn heintio'r ac yn gwanhau system imiwnedd gan ei gwneud hi’n anodd i bobl sy’n cael eu heffeithio arnynt i ymladd yn erbyn salwch.

Beth sy’n achosi AIDs?

Un o achosion sylfaenol HIV / AIDS yw drwy gael rhyw heb ddiogelwch. Mae hefyd wedi cael ei drosglwyddo drwy chwistrellu cyffuriau â nodwyddau gyda gwaed heintiedig arnynt, trosglwyddiadau gwaed neu roddion organau gan rywun sydd wedi cael ei effeithio ac o'r fam i'r baban drwy fwydo ar y fron..

Nid yw AIDs yn cael ei achosi na’i drosglwyddo gan:

Gofleidio, cusanu neu ysgwyd llaw â rhywun, hyd yn oed os oes ganddynt HIV gan na all HIV oroesi y tu allan i'r corff.

Brathiadau gan drychfilod

Anadlu’r un aer â rhywun gyda HIV/AIDs

Nodwyddau newydd neu wedi’u diheintio

Dŵr

Offerynnau Cerdd

Seddau toiledau

Cyfathrach eneuol neu fastyrbio’r naill a’r llall

Tatŵs a thyllau (oni bai na chafodd y nodwydd ei diheintio)

Roedd Rhagfyr 1af yn Ddiwrnod Ymwybyddiaeth AIDs. Cafodd yr ymgyrch ryngwladol hwn ei gynnal bob blwyddyn ers 1988 ac mae’n annog pobl i siarad am HIV/AIDs ac i ymladd yn erbyn y syniadau anghywir sydd o’u cwmpas. Thema’r ymgyrch eleni ydi

Rhuban coch yw symbol Diwrnod Aids y Byd, a chafodd ei lunio yn 1991 gan fudiad celfyddydol yn Efrog Newydd i helpu i wella ymwybyddiaeth am HIV

Lauren Dempster-Edwards