Student Mag | Page 16

Roedd yr arddangosfa yn y llyfrgell am bythefnos, gyda gwahanol stondinau yn cyflwyno agweddau ar y ffydd Iddewig, fel y Tora, y Saboth, y cyfreithiau dietegol, eu ffordd o fyw, a’r calendr Iddewig sydd â llawer o wyliau.

Daeth Clive Lawton, awdur y gwerslyfr Astudiaethau Crefyddol TGAU Iddewiaeth, i’r coleg a thrafod ei gysylltiad â’r Bwrdd Dirprwyon Iddewon Prydain a’i lyfr.

Pa bynciau sydd yn eich llyfr?

"Nid y fi, ond y llywodraeth a benderfynodd pa bynciau i’w cynnwys mewn gwirionedd. Yn bersonol efallai byddwn wedi dewis rhai pynciau eraill neu eu cyflwyno mewn trefn gwahanol. Cafodd y llyfr ei gynhyrchu i helpu ysgolion ddod i ddeall go iawn am y pethau yma. "

Beth fyddech chi wedi’u cynnwys yn eich llyfr pe byddech chi wedi cael eu dewis yn llwyr?

“Dwi’n credu mai un o'r pethau y gallwn fod wedi’i gynnwys fyddai’r ymagweddau at Dduw. Dwi’n credu bod diffiniadau’r llywodraeth am Dduw yn eithaf cyfyngedig ac yn ymdrin gormod gyda Duw fel rhyw fath o ffynhonnell ysbrydol. Dwi’n meddwl fod gan Iddewon lawer mwy o ddiddordeb mewn Duw. Felly, dwi’n meddwl y byddwn i wedi rhoi pwyslais gwahanol ar hynny. Dwi’n credu y byddwn i wedi rhoi pwyslais ar 'sut i fyw', tra bod y maes llafur hwn yn pwysleisio 'beth i'w gredu'. Dwi’n credu bod gan Iddewon lawer mwy o ddiddordeb mewn 'sut ydw i'n gwneud gwahaniaeth?' Yn hytrach nag 'ydw i'n credu'r pethau cywir?’ ”

Daeth Clive Lawton â’r drafodaeth i ben gan bwysleisio pa mor bwysig yw gwerthfawrogi amrywiaeth.

Mae'n bwysig iawn dysgu am amrywiaeth. Dwi’n gobeithio y byddan nhw’n dysgu bod pobl yn wahanol a phan fyddwch chi’n dod o hyd i rywun sy’n gwneud rhywbeth yn wahanol y byddwch chi’n dweud 'dyna ddiddorol' nid 'dyna od'. Mae’n debygol mai sylweddoli bod dysgu sut i ganiatáu pobl i fod yn wahanol, yw’r wers bwysicaf un ar gyfer dyfodol y byd."

A wnaethoch chi fynd i weld yr arddangosfa Profiad Bywyd Iddewig? Anfonwch e-bost at y tîm Snapshot os hoffech chi rannu eich profiad ag eraill.