"Dylech chwilio am gyfleoedd i ddysgu am amrywiaeth "
Clive Lawton
Roedden ni’n lwcus iawn yn CAD Coleg Cambria i gael croesawu’r arddangosfa Profiad Bywyd Iddewig a gafodd ei chyflwyno i ni gan Sara Perlmutter, sy’n gweithio i Fwrdd Dirprwyon Iddewon Prydain. Roedd yr arddangosfa’n cynnwys esboniad ar dermau sylfaenol Iddewiaeth.
Beth ddaeth â chi i Goleg Cambria?
"Mi wnaethon ni benderfynu cynnal yr arddangosfa yma oherwydd mi fuon ni i Gaerdydd ac roedd yr Aelod Cynulliad yno (Mark Isherwood) yn awyddus iawn iddi hi ddod i Ogledd Cymru ac mi wnaeth ein cyflwyno ni i Goleg Cambria. Pan ddywedodd y coleg fod ganddyn nhw ddiddordeb, mi wnaethon ni feddwl" dyna le perffaith i’w chynnal" ac rydyn ni’n gyffrous iawn i gael bod yma."
"Dwi’n credu ei bod hi’n bwysig iawn bod pobl yn deall gwahanol grefyddau, ffordd o fyw a diwylliant pobl eraill, fel y gallan nhw wybod amdanyn nhw a pheidio bod yn llawn rhagfarn am unrhyw ffydd neu system gred arall."
“Mae gan y myfyrwyr ddiddordeb mawr mewn dysgu ychydig mwy am y ffydd Iddewig " dywedodd Sara Perlmutter, "dydyn nhw ddim wedi cael cyfle i ddysgu am hyn o’r blaen".
Marta Flakiewicz
ffotograffiaeth: Lauren Dempster-Edwards