CLWB
facebook.com/cardiffhalf
Mae’r clwb 100 yn dychwelyd i ysbrydoli pobl i redeg yng Nghymru!
Croeso i Gaerdydd
Mae Caerdydd yn ddinas llawn
atyniadau unigryw, stadia
chwaraeon o safon fydeang,
adloniant bywiog ac amrywiaeth
eang o lefydd i aros, a hyn i gyd o
fewn pellter cerdded rhwydd.
Treftadaeth
Mae’r ras yn mynd heibio rhai o dirnodau
mwyaf eiconig Caerdydd eleni, o Gastell
Caerdydd, Morglawdd Caerdydd a Chanolfan
Mileniwm Cymru. Beth am fynd i grwydro ar
ôl y ras a dysgu sut datblygodd Caerdydd
o fod yn anheddiad bach i fod yn borthladd
prysuraf y byd, ac i fod yn brif ddinas fodern
fel y mae heddiw.
• Gadewch eich car gartref! Teithiwch mewn
ffordd gynaliadwy a meddyliwch am rannu car
neu ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus drwy
fynd ar drên neu fws lle bo hynny’n bosib.
• Mae’n syniad da peidio â gyrru i ganol y
ddinas er mwyn osgoi’r tagfeydd.
• Cynheswch yn barod ar gyfer y ras drwy
deithio ar feic a defnyddiwch ein parc
beiciau yn heol gerddi’r orsedd.
Mae Caerdydd yn un o chwech o ddinasoedd
gorau’r DU ar gyfer siopa, gyda chymysgedd
o siopau brandiau dylunwyr, siopau
poblogaidd y