Gwyl Rhedeg
Dydd Sadwrn 1 Hydref
Neuadd Y Dddinas, 11am–5pm
GWYBODAETH AM
BENWYTHNOS Y RAS
Mae Rhedeg Cymru yn rhaglen rhedeg
cymdeithasol gan Athletau Cymru wedi’i
datblygu gyda chi mewn golwg.
Y peth gwych am redeg yw bod pawb bron
yn gallu ei wneud. Wrth gwrs, mae heriau yn
dod gyda rhedeg ond mae hynny’n wir am
bopeth sydd werth ei wneud.
Mae oddeutu 35 o grwpiau rhedeg
cymdeithasol annibynnol ledled Cymru sy’n
cynnig cyfle i chi redeg mewn amgylchedd
diogel a chyfeillgar sy’n llawn hwyl, beth
bynnag yw eich gallu. Nid oes ymrwymiad,
na disgwyliadau, dim ond cyfle i chi gymryd
rhan gyda phobl sydd o’r un anian â chi.
Dim grŵp yn eich ardal chi? Beth am gael
gwybodaeth ynghylch bod yn Arweinydd
mewn Ffitrwydd Rhedeg a chychwyn eich
grŵp rhedeg eich hun?
Beth bynnag yw eich nod, mae Rhedeg
Cymru yn cynnig yr holl wybodaeth ac
arweiniad sydd ei angen arnoch chi, felly
ewch i irun.wales ac ymuno â'r gymuned
heddiw i weld i le'r ewch chi wrth redeg.
HANNER MARATHON CAERDYDD/PRIFYSGOL CAERDYDD 2016
MAP O'R LLWYBR
Rhyngweithio
Rydym yn gwybod bod dros 300,000 o bobl
yng Nghymru yn rhedeg yn rheolaidd, ond
mae Rhedeg Cymru yn awyddus i bawb yn y
wlad gael cyfle i redeg ac wrth wneud hynny,
creu cymuned o redwyr cymdeithasol sy’n
cefnogi, yn ysbrydoli ac yn annog ei gilydd.
PROFIADAU
Clymwch eich
careiau ac ymuno
â chymuned
rhedeg cymru
irun.wales
8
CROESO
@cardiffhalf #CARDIFFHALF
facebook.com/cardiffhalf
PRIFYSGOL
CAERDYDD
Mae Hanner Marathon Caerdydd/Prifysgol Caerdydd yn fwy na dim ond
13 milltir ar fore Sul! Byddwn yn cychwyn y cyffro rhedeg fore Sadwrn
gyda diwrnod llawn o weithgareddau hwyl, adloniant a rhedeg i bob oed
a gallu.
Efallai eich bod yn awyddus i gael gynnig ar yr
her rasys ffordd un filltir, neu eistedd a gwylio
rhai o’r athletwyr clwb gorau yn rhedeg ein
cwrs milltir, neu gymryd rhan yn ein ras hwyl
i’r teulu a’r rasys i blant bach. Mae llawer yn
digwydd i godi curiad eich calon.
Gydag wynebau hapus, gwisg ffansi, ac awyr
las hyfryd (gobeithio), bydd Gŵyl Redeg
Prifysgol Caerdydd yn gychwyn cyffrous,
unwaith eto, i benwythnos Hanner Marathon
Caerdydd/Prifysgol Caerdydd.
RHAGLEN SWYDDOGOL Y RAS
9