Cardiff Half Marathon Race Brochure 2017 | Page 42

Bydd Clinig Ffisiotherapi Prifysgol Caerdydd yn darparu gwasanaethau ffisiotherapi cyn ac ar ôl y ras yn y babell tylino ym Mhentref y Rhedwyr. Mae’r gwasanaeth am ddim i bawb sy’n cymryd rhan, ac mae’n lle perffaith i dylino unrhyw dyndra yn y cyhyrau cyn y ras neu i leddfu doluriau a phoenau ar ôl y ras. Mannau Cyfarfod Bydd mannau cyfarfod A-Z o flaen Amgueddfa Cymru ym Mhentref y Rhedwyr, neu galwch draw i gwrdd â’ch teulu neu ffrindiau yng nghaffi’r Amgueddfa. Cyfleusterau Newid a Chawodydd Bydd mannau newid i ddynion a menywod ar gael yn rhan ogleddol y pebyll cadw bagiau ar Rodfa’r Amgueddfa. Bydd cyfleusterau cawod ar gael yn Chwaraeon Cymru yng Ngerddi Soffia am gyfraniad o £1 at elusen. Plant ar goll Lluniau a fideos Bydd lluniau a fideos yn cael eu tynnu yn y ras. Byddwch yn gallu prynu’r rhain gan ein ffotograffwyr swyddogol, Marathon Photos (www.marathon-photos.com) 2 ddiwrnod ar ôl y ras. Caiff Run 4 Wales ddefnyddio’r holl ffotograffau o’r digwyddiad i roi cyhoeddusrwydd i’r digwyddiad hwn. Bydd cyfleuster parcio a cherdded yn cael ei ddarparu ym maes parcio Stadiwm Pêl-droed Dinas Caerdydd ar Heol Lecwydd, Caerdydd, CF11 8AZ. Ewch i cardiffhalfmarathon.co.uk i gael y manylion llawn a’r prisiau cyn i chi deithio. Rydym yn argymell bod pob rhedwr yn edrych ar yr holl opsiynau parcio yn y ddinas yn www.en.parkopedia.co.uk/parking/ cardiff neu www.cardiff.gov.uk, yn ogystal â pharcio ar ochr ffyrdd os yw hynny’n ddiogel. Byddwch yn wyrdd a theithio ar feic i gyrraedd dechrau’r ras. Gallwch gloi eich beic yn ein lle parcio i feiciau ym Mhentref y Rhedwyr gan osgoi’r holl straen a geir gyda thraffig a pharcio ar ddiwrnod y ras. Neu, beth am ein helpu i leihau ôl-troed carbon y digwyddiad drwy rannu car gyda phobl eraill sy’n cymryd rhan o’ch ardal. Rhannwch gost y petrol a’i gwneud yn haws o ran parcio. Ewch i www.gocarshare.com heddiw i ddod o hyd i rywun a fyddai’n rhannu lifft. Gwylwyr Wrth wylio’r ras dylech fod yn ymwybodol o’r cwrs a chadw y tu ôl i rwystrau bob amser. Bydd mannau croesi yn cael eu rheoli ar hyd y cwrs, ond pan na fydd rhai ar gael, gofalwch nad ydych yn croesi o flaen rhedwyr, a chroeswch pan nad oes rhedwyr ar y ffordd. Mae yna nifer o leoliadau gwych o amgylch y llwybr i wylio’r ras, ond byddwch yn ofalus bob amser. HANNER MARATHON CAERDYDD/PRIFYSGOL CAERDYDD 2016 YOU’RE AMAZING! WANT TO JOIN THE TEAM? [email protected] 020 7612 0370 www.teenagecancertrust.org/cardiffhalf PROUD SPONSORS ORS OF TH THE CARDIFF FF HALF MARA MA AT ATHON 220016 Registered charity (1062559, SC039757) DISCOVER ATHLETICS IN YOUR AREA Visit www.welshathletics.org And find information on: MAP O'R LLWYBR Os ydych wedi colli plentyn neu’n dod o hyd i blentyn sydd a