facebook.com/cardiffhalf
Mae ein stondin nwyddau swyddogol yn cadw
amrywiaeth wych o gynnyrch Brooks safonol
i chi fynd adref gyda chi er mwyn cofio’r
diwrnod. O siacedi i hwdis, bagiau a mwy, mae
gennym amrywiaeth ragorol o gynlluniau
a chynnyrch ar gyfer yr anrheg berffaith i
longyfarch rhywun.
Gwnewch y mwyaf o benwythnos
y ras a threulio amser gyda ni ym
Mhentref y Rhedwyr. Mae’r pentref
yn fwy ac yn well nag erioed ac
mae llawer o bethau cyffrous yn
digwydd yno!
Blaswch Fwyd Y Stryd
Beth am ddod draw i gael blas ar y bwyd stryd
mwyaf blasus sydd ar gael? Yn ein hardal bwyd
stryd, mae digon yno i’ch temtio i redeg yn
gyflymach a dathlu gyda’ch ffrindiau ar y diwedd.
Pa un ai eich bod yn wyliwr neu’n rhedwr, dewch i
weld beth sydd gennym i godi blys arnoch chi:
Bwydiful (dydd Sul yn unig)
Bydd byrgyrs stêc arbennig yn eich disgwyl wedi’u
gwneud o gig eidion coch iawn o Fro Morgannwg
mewn rôl surdoes wedi’u pobi gan Nata & Co yn
ogystal â rholiau brecwast hefyd. Mae opsiynau
llysieuol a di-glwten ar gael hefyd.
Lleddfu'r Doluriau
A'r Poenau
Tylino Cyhyrau Ar Ôl Y Ras
Does dim byd gwell na thylino’r cyhyrau
ar ôl ras er mwyn lleddfu’r doluriau
a’r poenau ar ôl i chi ddefnyddio’r holl
egni yn rhedeg 13.1 milltir. Bydd Clinig
Ffisiotherapi Prifysgol Caerdydd yn darparu
gwasanaethau ffisiotherapi am ddim cyn ac
ar ôl y ras yn ein pabell tylino.
Profwch i’ch ffrindiau a’ch teulu eich bod wedi
chwalu’ch targed gyda llun o flaen eich amser
gorffen swyddogol wrth ein wal llun diwedd ras.
Amser personol gorau newydd? Ysgrifennwch
hyn ar ein wal a dathlu gyda phawb arall!
Stondinau ac Elusennau
Bydd y pentref eleni yn llawn stondinau a
busnesau lleol i wella’r ras i chi, mynd â chi
ymhellach a’ch helpu i wneud y mwyaf o’ch
amser yng Nghaerdydd. Dewch i weld beth
sydd ar gael, pa un ai bod angen tâp rhedeg
arnoch, offer rhedeg newydd, cynnyrch
egni gan High 5 neu anrhegion gwych a
nwyddau lleol.
Yn ogystal â hyn, bydd dros 20 o elusennau
gwych yn cael eu cynrychioli. Byddant yn
cynnig cymorth i redwyr a digon o resymau
anhygoel i chi gofrestru a rhedeg ar ran elusen
yn y dyfodol a gwneud i’r ras gyfri go iawn.
The Bearded Taco
Blasau rhyngwladol blasus a ffres wedi’u gweini
mewn tortilla Ðd sydd wedi’u gwneud â llaw. Gan
gymysgu blasau rhyngwladol arloesol a syn iad
Mecsicanaidd gwreiddiol, cewch gyfle i flasu Taco
Schnitzel Almaenig, Taco Bahn Mi Fietnamaidd neu
hyd yn oed y Taco Bysedd Pysgod Prydeinig clasurol
Mae opsiynau llysieuol a di-glwten ar gael hefyd.
MAP O'R LLWYBR
Ffwrnes
Beth am gladdu un o’r pitsas blasus Neapolitanaidd
sydd wedi’u coginio ar dân coed yng nghefn fan
Piaggio gan y cwmni Ffwrnes o Gaerdydd? Byddwch
yn siŵr o ddod yn ôl am fwy! Mae opsiynau llysieuol
a figan ar gael.
Gwnewch yn siŵr eich bod yn galw draw yn
fuan ar y dydd Sadwrn neu’r dydd Sul cyn i ni
werthu popeth, neu i wneud yn siŵr eich bod
yn cael y nwyddau, archebwch bopeth ar-lein
yn www.cardiffhalfmarathonstore.co.uk
Cymryd llun ar y llinell derfyn
PROFIADAU
@cardiffhalf #CARDIFFHALF
Nwyddau Swyddogol
GWYBODAETH AM
BENWYTHNOS Y RAS
Rhyngweithio
Dydd Sadwrn 11am-5pm, Dydd Sul 8am-2pm
CROESO
18
PENTREF Y RHEDWYR
The Pork Society (dydd Sul yn unig)
Prydau Porc sy’n seiliedig ar brydau bwyty fel
darnau brau o borc blas barbeciw, confit bol porc,
asennau porc a sawsiau a dresin cartref gyda
nachos, rholiau brioche a cous cous. Mae opsiynau
llysieuol a di-glwten ar gael hefyd.
HANNER MARATHON CAERDYDD/PRIFYSGOL CAERDYDD 2016
RHAGLEN SWYDDOGOL Y RAS
19