Cardiff Half Marathon Race Brochure 2017 2017 | Page 52

Violah Jepchumba RAS ELÎT: Y RHEDWYR I’W GWYLIO Dyfarnwyd Label Ras Ffordd Arian yr IAAF i Hanner Marathon Caerdydd/Prifysgol Caerdydd yn gynharach eleni, sy’n golygu ei bod wedi cael ei chydnabod yn swyddogol fel un o rasys ffordd mwyaf blaenllaw y byd gan gorff rheoli athletau’r byd. Mae’n ymuno â Marathon Llundain – yr unig ddigwyddiad â Label Aur yn y DU, drwy ddod yr unig ddigwyddiad Label Arian ym Mhrydain. Bydd y ras unwaith eto’n cynnwys Pencampwriaethau Hanner Marathon Cymru, ond gallwch ddisgwyl gweld rhai o athletwyr gorau’r byd yn cystadlu, yn ogystal ag athletwyr o bob cwr o Gymru a’r DU. MENYWOD Y DU Andrew Davies: Prydain Fawr a Gogledd Iwerddon (Harriers Stockport) Amser Personol Gorau: 1:05:18 Cystadlodd Andrew ym Marathon Gemau Cymanwlad 2014 ac mae wedi ennill y safon cymhwyso ar gyfer Gemau 2017 ar yr Arfordir Aur. Hefyd mae wedi cael ei ddewis i gynrychioli Prydain Fawr a Gogledd Iwerddon ym Mhencampwriaethau Marathon y Byd yr IAAF 2017 yn Llundain. Y DU Elinor Kirk: Prydain Fawr a Gogledd Iwerddon (Harriers Abertawe) Amser Personol Gorau: 1:14:18 Daeth Elinor yn 9fed yng Ngemau Cymanwlad 2014 yn Glasgow yn y 10,000m. Hi yw’r ail Athletwraig gyflymaf o Gymru erioed yn y 10,000m a’r bumed gyflymaf yn y 5,000m . Roedd Elinor yn Bencampwraig Prifysgolion Prydain 2015 yn y 3,000m ac mae wedi ennill ar y ffordd yn 10k Trafford a 10k Telford. Gweddill y byd Hiskel Tewelde: Eritrea Amser Personol Gorau: 1:00:29 Mae Hiskel wedi cynrychioli Eritrea ym Mhencampwriaethau Traws Gwlad y Byd yr IAAF, Pencampwriaethau Hanner Marathon y Byd yr IAAF a Gemau Olympaidd 2016 yn Rio De Janerio. Yn 2016 daeth yn 17eg ym Mhencampwriaethau Hanner Marathon y Byd Prifysgol Caerdydd yr IAAF a chipiodd fedal efydd yn y categori i dimau. Ym mis Ionawr 2017 daeth yn drydydd yn Hanner Marathon Houston. Gweddill y byd Violah Jepchumba: Kenya Amser Personol Gorau: 1:05:22 Enillodd Violah Hanner Marathon Caerdydd/ Prifysgol Caerdydd 2016 gan osod record newydd o 1:08:10 ar gyfer y cwrs. Yr athletwraig o Kenya yw’r pumed cyflymaf erioed dros bellter hanner marathon a’r ail gyflymaf yn y 10km. Mae wedi cofnodi buddugoliaethau uchel eu proffil yn Hanner Marathon Prag yn 2016, Hanner Marathon Istanbul yn 2016 ac yn Ras Draws Gwlad Fawreddog Darganfod Kenya. HANNER MARATHON CAERDYDD/PRIFYSGOL CAERDYDD 2017 Menywod: Peres Jepchirchir (1:07:31) Caerdydd, Cymru, 2016 RECORDIAU HANNER MARATHON AR HYNO BRYD TORWYR COFNODWCH Mae disgwyl i’r amseroedd cyflymaf i’w cofnodi erioed ar ein cwrs gael eu trechu eto eleni, gyda chystadleuwyr elitaidd cryfach nag erioed yn mynd i gymryd rhan – ond nid dim ond yr athletwyr proffesiynol fydd yn torri recordiau yn Hanner Marathon Caerdydd/Prifysgol Caerdydd 2017. Mae 25,000 o redwyr wedi cofrestru i gymryd rhan eleni – y nifer uchaf erioed yn y pedair blynedd ar ddeg ers sefydlu’r ras – ac rydyn ni eisiau torri mwy fyth o recordiau os allwn ni! Yn 2016 cafwyd sawl ymgais anhygoel i dorri recordiau: Mike Kallenburg Hanner marathon cyflymaf wedi gwisgo fel archarwr Record byd newydd mewn 69:33. Yn dynn ar sodlau Mike roedd ei ffrind Carwyn Jones oedd wedi gwisgo fel Batman. Kevin Summerhayes Hanner marathon cyflymaf wedi gwisgo fel dyn tân Record byd newydd mewn 1:48:23. Yn ymuno â Kevin bydd byddin o ddynion tân sy’n ceisio torri llu o recordiau byd yn ystod penwythnos yr hanner marathon eleni, gan godi arian at Elusen yr Ymladdwyr Tân. Sir Runalot Hanner marathon cyflymaf wedi gwisgo mewn arfwisg Aflwyddiannus Bydd Tudor Jones, sy’n cael ei adnabod hefyd oddi wrth yr enw Syr Runalot, yn ceisio torri’r record 3:30 eto yn 2017. Jones’ Nid yw’n syndod bod gan ras ffordd fwyaf Cymru fwy o redwyr gyda’r cyfenw Jones nag unrhyw un arall. Gorffennodd 675 y ras yn 2016. Fedrwn ni guro’r record yma yn 2017? Mae mwy o redwyr anhygoel yn ceisio torri recordiau byd yn ras 2017, felly cofiwch gadw llygad i weld sut maen nhw’n gwneud! Os ydych chi’n ceisio torri record eich hun (hyd yn oed os mai dim ond un bersonol yw hi), rydyn ni eisiau clywed amdani! E-bostiwch cardiffhalfmarathon@ run4wales.org a rhowch wybod i ni amdani. RHAGLEN SWYDDOGOL Y RAS DYNION Menywod: Paula Radcliffe (1:06:47) Bryste, Lloegr, 2001 Elinor Kirk Dynion: Geoffrey Kamworor (59:10) Caerdydd, Cymru, 2016 Hiskel Tewelde Pawb – yng Nghymru Dynion: Mohamed Farah (59:32) Lisbon, 2015 22 Andrew Davies Y DU 23