Cardiff Half Marathon Race Brochure 2017 2017 | Page 44

Nwyddau Swyddogol PENTREF Y RHEDWYR Dydd Sadwrn 11am-5pm, Dydd Sul 8am-2pm Gwnewch y mwyaf o benwythnos y ras a threulio amser gyda ni ym Mhentref y Rhedwyr. Mae’r pentref yn fwy ac yn well nag erioed ac mae llawer o bethau cyffrous yn digwydd yno! Cyfle i Flasu Bwyd Stryd Wal Luniau Cewch fodloni eich archwaeth gyda digon o fwyd stryd blasus. Yn ein hardal bwyd stryd, mae digon yno i’ch temtio i redeg yn gyflymach a dathlu gyda’ch ffrindiau ar y diwedd. Os ydych yn wyliwr neu’n rhedwr, dewch i weld beth sydd gennym i godi blys arnoch chi: Profwch i’ch ffrindiau a’ch teulu eich bod wedi trechu eich targed – tynnwch hun-lun gyda’ch amser gorffen o flaen ein wal luniau! Amser personol gorau newydd? Ysgrifennwch hyn ar ein wal a dathlu! Gydag amrywiaeth wych o gynlluniau a chynnyrch, ein stondin Nwyddau Swyddogol yw’r lle i fod i gael rhywbeth bach i’w gofio. Cofiwch alw i mewn yn gynnar ar y dydd Sadwrn neu’r dydd Sul oherwydd mae’r stoc yn brin a bob amser yn hynod boblogaidd. I wneud yn siŵr eich bod yn cael eich archeb, ewch ar-lein i. www.cardiffhalfmarathonstore.co.uk Elusennau Bydd 15 o’n Helusennau Swyddogol gwych yn y pentref yn cynnig cefnogaeth i’w codwyr arian, a digon o resymau dros gofrestru a rhedeg drostynt yn y dyfodol. Gweithgareddau ac Adloniant Yn ogystal â llwyfan gyda rhaglen o gerddoriaeth fyw, mae gennym lawer o weithgareddau chwaraeon i chi gael dod i roi cynnig arnynt. Nid dim ond athletau fydd ar gael – bydd posib rhoi cynnig ar bêl droed, rhwyfo, golff, dringo a llawer mwy! • Prifysgol Caerdydd • Bodylite • Aldi • Brecon Carreg • M  apiau’r Marathon • Sytner MINI • Bosom Buddies • Nando’s • Capital FM • Run & Become • Scimitar Sports • P  OW Virtual Running Lleddfu’r Doluriau A’r Poenau Tylino Cyhyrau Ar Ôl Y Ras Does dim byd gwell na thylino’r cyhyrau ar ôl ras er mwyn lleddfu’r doluriau a’r poenau ar ôl i chi ddefnyddio’r holl egni yn rhedeg 13.1 milltir. Bydd Clinig Ffisiotherapi Prifysgol Caerdydd yn darparu gwasanaethau ffisiotherapi am ddim cyn ac ar ôl y ras yn ein pabell tylino. Bryn Farm BBQ: Sgiwers barbeciw hyfryd a chŵn poeth. Bydd gennym ni stondinau o... Bydd y pentref eleni’n llawn amrywiaeth gyffrous o frandiau i wella’r ras i chi, mynd â chi ymhellach a’ch helpu i wneud y mwyaf o’ch penwythnos! Stondinau Bwydiful Burgers: Byrgyrs stêc cartref o Fro Morgannwg. The Hive: Hufen iâ mêl cartref enwog o Aberaeron. Lilos Pasta: Prydau pasta cartref yn cael eu gwneud i archeb. Van Goffi: Coffi wedi’i falu’n ffres yn cael ei wneud i archeb. Mae opsiynau llysieuol a dim glwten ar gael a bydd gofynion eraill o ran deiet yn cael eu bodloni os yw hynny’n bosib. 14 HANNER MARATHON CAERDYDD/PRIFYSGOL CAERDYDD 2017 RHAGLEN SWYDDOGOL Y RAS 15