Cardiff Half Marathon Race Brochure 2017 2017 | Page 36

Croeso i Gaerdydd Mae Caerdydd yn ddinas llawn atyniadau unigryw, stadia chwaraeon o safon fydeang, adloniant bywiog ac amrywiaeth eang o lefydd i aros, a hyn i gyd o fewn pellter cerdded rhwydd. Treftadaeth Mae’r ras yn mynd heibio rhai o dirnodau mwyaf eiconig Caerdydd eleni, o Gastell Caerdydd, Morglawdd Caerdydd a Chanolfan Mileniwm Cymru. Beth am fynd i grwydro ar ôl y ras a dysgu sut datblygodd Caerdydd o fod yn anheddiad bach i fod yn borthladd prysuraf y byd, ac i fod yn brif ddinas fodern fel y mae heddiw. • G  adewch eich car gartref! Teithiwch mewn ffordd gynaliadwy a meddyliwch am rannu car neu ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus drwy fynd ar drên neu fws lle bo hynny’n bosib. •  Mae’n syniad da peidio â gyrru i ganol y ddinas er mwyn osgoi’r tagfeydd. •  Cynheswch yn barod ar gyfer y ras drwy deithio ar feic a defnyddiwch ein parc beiciau yn heol gerddi’r orsedd. Mae Caerdydd yn un o chwech o ddinasoedd gorau’r DU ar gyfer siopa, gyda chymysgedd o siopau brandiau dylunwyr, siopau poblogaidd y stryd fawr a siopau annibynnol. Mae Canolfan Dewi Sant a John Lewis yn enfawr, ac mae’r arcedau Fictoraidd ac Edwardaidd hyfryd yn rhoi naws Gymreig i ddiwrnod allan yn siopa. Bwyd Mae Caerdydd yn gwybod sut mae cynnig bwyd da mewn lleoliadau chwaethus, gyda channoedd o lefydd i fwyta ac yfed. O’r llefydd bwyta y tu allan ar Lôn y Felin, i’r Brewery Quarter cosmopolitan i’r nifer o dai bwyta gyda golygfa dros y glannau yn Mermaid Quay, mae digon o ddewisiadau ar gyfer pob chwaeth a phob poced yng Nghaerdydd. www.visitcardiff.com •  Meddyliwch am deithio y diwrnod cynt a chaniatáu digon o amser i gyrraedd cyn i’r ras gychwyn; ni chaniateir i bobl sy’n hwyr gymryd rhan yn y ras. •  Gwnewch yn siŵr eich bod yn edrych ar y mapiau sydd ar ein gwefan cyn i chi deithio i weld pa ffyrdd sydd ar gau ac i’w hosgoi. • A  rchebwch le parcio a cherdded ymlaen llaw yn stadiwm dinas caerdydd er mwyn gwneud yn siŵr bod gennych chi le i barcio. Ewch i cardiffhalfmarathon.co.uk i gofrestru. HANNER MARATHON CAERDYDD/PRIFYSGOL CAERDYDD 2017 Dyma’r lliwiau: Bydd Hanner Marathon Caerdydd Lloyds Bank yn cychwyn am 10am ar Dydd Sul 1 Hydref. Bydd y ras i ddefnyddwyr cadair olwyn yn cychwyn am 9:50am a’r ddwy ras yn cychwyn ar Heol y Castell. Ni fydd pobl sy’n cyrraedd yn hwyr yn cael cymryd rhan. *DS: Bydd gwyn yn cael ei is-rannu’n ardaloedd elit ac o dan 1.30 ar y bore yn unol â’ch rhif ras. Rhif rhedwr a sglodyn amseru Bydd eich sglodyn amseru yn sownd yn eich rhif rhedwr. Cofiwch ddod â’ch rhif rhedwr gyda chi ar y diwrnod gan na allwn roi un arall ichi. Gwnewch yn siŵr bod eich rhif rhedwr wedi’i binio’n ddiogel ac yn glir ar FLAEN eich fest neu eich crys-T. MAE’N RHAID I CHI LENWI’R ADRAN MANYLION MEWN ARGYFWNG AR GEFN EICH RHIF. Cofiwch: os na fyddwch yn gwisgo’ch rhif rhedwr ar draws y mat cychwyn, ni fydd eich amser yn cael ei gofnodi. Corlannau Amser Bydd y lliw solid sydd y tu ôl i’ch rhif ar eich bib ras yn cyfateb i’r gorlan amser a’r amcan amser a nodwyd wrth i chi gofrestru. Gofynnwn i chi ymgynnull yn y corlannau sydd wedi’u codio â lliw ar Heol y Castell. Bydd arwyddion clir yn dangos y ffordd i’r rhai. Am resymau diogelwch, rhaid i redwyr ymgynnull yn y gorlan â’r lliw cywir. Gall rhedwyr symud yn ôl i gorlan arall, ond nid ymlaen i gorlan arall. Cofiwch adael digon o amser i gerdded i’r cychwyn ac ymgynnull. Bydd y corlannau’n agor am 9.15am. Bydd sawl amser cychwyn ar gyfer y ras i sicrhau bod pob rhedwr yn cychwyn y ras mor ddiogel â phosibl. Bydd pob rhedwr yn cael amser gorffen sglodyn a gwn. Mae eich amser gwn yn dechrau pan mae’r ‘gwn’ dechrau’n cael ei danio ar ddechrau pob ton. Mae eich amser sglodyn yn dechrau wrth i’r sglodyn amseru ar eich rhif rhedeg fynd dros y llinell gychwyn. Gwyn* Gwyrdd Rhedeg Melyn Lle cadw bagiau Bydd y pebyll cadw bagiau ar agor o 8.30am. Maent wedi’u lleoli ar Rodfa’r Amgueddfa ac ym maes parcio’r amgueddfa ger Pentref y Rhedwyr. Edrychwch ar y map o’r pentref a’r lle cadw bagiau yn y llyfryn hwn i weld yr union leoliad. Bydd pob rhedwr yn cael gadael un bag, a rhaid i chi roi eich label arno, sef stribyn y gellir ei dorri i ffwrdd oddi ar waelod eich rhif ras. Rhowch y label yn sownd cyn i chi gyrraedd os gwelwch yn dda. Gallwch gasglu eich bag ar ôl y ras ar ôl rhoi eich rhif rhedwr. Dim ond rhedwyr a staff fydd yn cael mynediad i’r lle bagiau a bydd staff diogelwch yn gweithio yno ac yn holi, o bosib, am gael archwilio eich bagiau. Bydd eitemau na fyddant wedi’u casglu ar ôl i’r lle cadw bagiau gau yn cael eu cadw yn y babell Gwybodaeth ym Mhentref y Rhedwyr. Y diwrnod canlynol, byddant yn cael eu symud i swyddfeydd Run 4 Wales. Cysylltwch â thîm y digwyddiad i drefnu casglu’ch bag drwy anfon e-bost a [email protected] neu ffonio 029 2166 0790. Rydym yn eich cynghori’n gryf i adael unrhyw beth gwerthfawr gartref. Ni ellir dal trefnwyr y ras yn gyfrifol os bydd eitemau’n mynd ar goll neu’n cael eu difrodi. Byddwn yn gwneud ein gorau glas i gadw eich bagiau’n ddiogel, ond nid yw’r lle yn cael ei ddiogelu. GAIR O GYNGOR AM DEITHIO Siopa Amseroedd y Rasys Croeso i Gaerdydd AMSER CYCHWYN Dydd Sul, 1 Hydref 6 GWYBODAETH AM DDIWRNOD Y RAS 10am Y Seremoni Gyflwyno Bydd seremoni i gyflwyno’r gwobrau am 12:30pm ger y llinell derfyn. Caiff gwobrau RHAGLEN SWYDDOGOL Y RAS 7