Cardiff Half Marathon Race Brochure 2017 1 | Page 42
© Andrew Hazard. Courtesy of www.visitcardiff.com
CROESO I GAERDYDD
www.visitcardiff.com
Siopa
CROESO Mae Caerdydd yn cael ei hystyried ymhlith chwe dinas siopa orau’r Deyrnas Unedig, ac nid yw’n anodd gweld pam! Mae Canolfan Dewi Sant a John Lewis yn gosod y gefnlen i siopau’r ddinas ochr yn ochr â Chanolfan y Frenhines a’r Capitol, ac mae arcêds hyfryd oes Fictoria ac Edward yn ychwanegu blas Cymreig a gwahanol i ddiwrnod o siopa.
Yng Nghaerdydd, prifddinas Cymru, fe welwch chi atyniadau unigryw, adloniant o’r radd ?aenaf, siopau o safon ac amrywiaeth enfawr o lety, a hynny i gyd o fewn pellter cerdded. Mae Hanner Marathon Caerdydd Lloyds Bank yn digwydd yng nghalon y ddinas; dinas sydd â gorffennol eithriadol o ddifyr a dyfodol cyffrous o’i blaen.
Treftadaeth
Bydd y ras eleni’n mynd heibio i rai o nodfannau mwyaf eiconig Caerdydd. O Gastell Caerdydd, Morglawdd Caerdydd i Ganolfan y Mileniwm, pam na wnewch chi dreulio ychydig o amser ar ôl y ras yn gweld beth sydd gan y ddinas i’w gynnig.
Bwyta
Mae Caerdydd wedi aeddfedu’n ddinas sy’n gwybod sut mae cynnig bwyd da mewn amgylchedd chwaethus. O’r opsiynau bwyta awyr agored yn Lôn y Felin i ardal gosmopolitan yr Hen Fragdy i Eastside Canolfan Dewi Sant, mae gan Gaerdydd rywbeth at ddant ac at bwrs pawb.
GWYBODAETH AM Y RAS PENTREF Y RHEDWYR MAP O’R LLWYBR
Rhaglen Swyddogol y Ras
7