Cardiff Half Marathon Race Brochure 2017 1 | Page 40

GÐYL REDEG LLOYDS BANK DYDD SADWRN 5ed HYDREF CROESO Bydd hwyl Hanner Marathon Caerdydd Lloyds Bank eleni yn ymestyn dros fwy na’r bore Sul yn unig. Ymunwch â ni fore Sadwrn 5ed Hydref ac ymestyn eich coesau mewn rasys hwyl i’r teulu, ac mewn nifer o gystadlaethau a gweithgareddau ichi roi cynnig arnyn nhw. Cadwch olwg rhag ofn ichi weld ambell seren yn ymddangos yn ystod y diwrnod, a dewch yno i gefnogi’r ymdrech i redeg milltir mewn llai na phedwar munud. Os bydd rhywun yn llwyddo, dyma’r tro cyntaf i hyn ddigwydd yng Nghymru ers dros 20 mlynedd. GWYBODAETH AM Y RAS RAS HWYL LLOYDS BANK I DEULUOEDD PENTREF Y RHEDWYR MAP O’R LLWYBR 2pm Mae’r achlysur wedi tyfu o’r naill ?wyddyn i’r llall a mwy a mwy o bobl yn derbyn yr her. Mae Ras Hwyl Lloyds Bank i’r Teulu, ddydd Sadwrn 5ed Hydref, yn gwbl addas i bobl o bob oed a gallu. Mae’r llwybr 2.4km yn cylchu ddwywaith o gwmpas Canolfan Ddinesig Caerdydd, Gerddi Alexandra a Ffordd y Gogledd, a bydd yn cynnwys digon o weithgareddau carnifal bywiog ac adloniant i’ch sbarduno i redeg yn gy?ym. Codir tâl o £7.50 am gymryd rhan ac wrth orffen y ras, bydd pawb yn cael bag nwyddau i crys-t i go?o’r digwyddiad a medal. Rhoddir gwobrau hefyd i’r 1af, yr 2il a’r 3ydd o blith y dynion a’r menywod sy’n rhedeg. Byddwn yn annog pobl i redeg dros yr elusen sy’n bartner inni, Barnardo’s. Bydd yr holl arian a godir yn help i weddnewid bywydau plant agored i niwed ym mhrosiectau Barnardo’s ym mhob cwr o’r Deyrnas Unedig. Nid oes terfyn oedran ar gyfer y ras hon, ond rhaid i blant dan wyth oed fod gydag oedolyn, a rhaid i chi ddod ag unrhyw blant sy’n rhedeg ar eu pen eu hunain at y man cychwyn a’u cyfarfod ar ddiwedd y ras hwyl. I gofrestru, ewch i www.cardiffhalfmarathon. co.uk neu fe allwch chi gofrestru ar y diwrnod. Rhaglen Swyddogol y Ras 9