PENTREF Y RHEDWYR
Arlwyo, Ail-wynt ac Adfywio
CROESO GWYBODAETH AM Y RAS PENTREF Y RHEDWYR
Ar y lawntiau y tu allan i Neuadd y Ddinas Caerdydd, heb fod ymhell o’r llinell orffen, mae Pentref y Rhedwyr nid yn unig yn lle gwych i gyfarfod â’ch ffrindiau a’ch teulu ar ddiwedd y ras ond hefyd bydd y lle’n gartref i stondinwyr bwyd a diod anhygoel, ein llwyfan gerddoriaeth fyw, ac amrywiaeth o elusennau a busnesau lleol. Bydd Capital FM wrth law i gynnal ysbryd pawb, a hefyd Lloyds Bank, y South Wales Echo a llu o wirfoddolwyr cymwynasgar a fydd yn gallu’ch cyfeirio at y man cychwyn, neu’n bwysicach byth, at y bar ar ddiwedd eich 13.1 milltir. Pentref y Rhedwyr yw’r man perffaith i ymlacio, i ymadfer a dathlu’ch llwyddiant ac i fwynhau cy?e haeddiannol i gael tylino’ch corff gan fyfyrwyr f?siotherapi Prifysgol Caerdydd o dan y Rhaglen Ysbrydoli.
Ar ôl ichi gael eich sesiwn tylino a phan fyddwch chi’n teimlo’n fwy bywiog, fe allwch chi hefyd fwynhau ein llwyfan cerddoriaeth fyw ar ei orau. Bydd hyn yn dechrau am 7.30am gyda dosbarth swmba egnïol, ac wedyn bydd rhaglen o gerddoriaeth fyw drwy gydol y digwyddiad tan y diwedd un. Bydd nwyddau swyddogol y ras ar werth drwy’r dydd ochr yn ochr â nifer o grysau-t arbennig I Loves The ‘Diff ac, os byddwch am holi unrhyw beth am y ras, byddwn yno ym Mhencadlys y Ras i’ch helpu I gael rhestr lawn o’r gwerthwyr bwyd a diod a gwybodaeth derfynol am y perfformiadau cerddoriaeth byw, edrychwch yn y canllawiau plyg i wylwyr yn ogystal ag ar ein gwefan yn www.cardiffhalfmarathon.co.uk
MAP O’R LLWYBR
SBWYLIWCH EICH HUN
Efallai eich bod am garbo-lwytho’ch corff cyn y ras neu sbwylio’ch hun a’ch teulu gyda phryd o fwyd ar ôl cwblhau’r cwrs yn fuddugoliaethus. Rydym wedi trefnu gostyngiadau a bargeinion gwych i bobl sy’n cymryd rhan yn y ras. I gael cwpons, rhagor o wybodaeth a thelerau ac amodau, edrychwch ar ein canllawiau plyg i wylwyr neu yn adran bwyd ac adloniant ein gwefan yn www.cardiffhalfmarathon.co.uk.
Viva Brazil
Rhaglen Swyddogol y Ras
17