Photo : Totally Abersoch
Croeso i Gylchgrawn Abersoch Sensation
Yr haf diwethaf roeddwn yn ddigon ffodus i fod yn eistedd ar fy mwrdd syrffio yn disgwyl y gyfres nesaf o donnau ar draeth yn ne Califfornia â ’ r enw gwych Santa Claus Lane . Roedd fy mab wrth fy ochr a gallech faddau i ni am feddwl ein bod yng ngwlad hud wrth i ’ r haul ffrydio i lawr o awyr las , yn goleuo ’ r Môr Tawel , y tywod euraid ar y glannau a bryniau Santa Ynez ar y gorwel . Cawsom ein cyffroi hyd yn oed yn fwy wrth i haid o ddolffiniaid ymuno â ni yn y morynnau , yn dawnsio yn yr ewyn ac yn llithro o amgylch ein byrddau syrffio , o fewn cyffwrdd â ni .
Credem yn siŵr na fyddai unrhyw le ym Mhrydain yn gallu cymharu â ’ r baradwys heddychlon hwn .
Wel ychydig wythnosau ’ n ôl , cyrhaeddais ddiwedd fy niwrnod cyntaf fel golygydd newydd cylchgrawn Abersoch - diwrnod hir a dreuliais yn ceisio mynd i ’ r afael â sut mae ’ r cylchgrawn yn gweithio a sut mae ’ n adrodd hanes bywyd Abersoch yn ei ffordd unigryw ei hun . Roeddwn yn teimlo ’ n falch â chanlyniadau ’ r diwrnod cyntaf wrth i mi roi ’ r bwrdd padlo ar do ’ r car , a mynd ar y ffordd drwy Sarn Bach , i fyny i Fwlchtocyn ac i lawr y lôn i draeth Macroes .
Gyda ’ r gwyntoedd gorllewinol sy ’ n chwythu ar draws Abersoch , gall Macroes fod yn lleoliad hyfryd o dawel , yn nythu yng nghesail gysgodol y pentir . Yn yr hwyr ar ddiwedd diwrnod hir , heulog yn Abersoch , gall fod yn arbennig o hudolus . Gan godi llaw ar y staff oedd yn gorffen am y diwrnod yng nghaffi Mickey ’ s Boatyard , rhwyfais allan , yn cadw gyda ’ r lan nes i mi fynd o amgylch hen Orsaf y Bad Achub . Trois i ddal yr haul oedd yn machlud yn isel dros Rhiw i ’ r gorllewin , a daliwyd fy llygaid â symudiad yn y dŵr wrth fy ochr .
O fewn munudau roeddwn wedi fy amgylchynu â haid enfawr o ddolffiniaid o bob maint . Am un awr ledrithiol , cefais sioe anhygoel ganddynt , yn llithro o dan fy mwrdd padlo , yn rholio mewn parau yn ymchwydd y don , yn neidio fel llamhidyddion yn eu dull cyfarwydd - eu hesgyll yn amlinell yn erbyn nenlen Eryri - a bob hyn a hyn yn llamu ’ n glir o ’ r dŵr , yr ewyn yn treiglo fel perlau oddi ar fy siwt ddŵr .
Croeso i Abersoch - paradwys Gogledd Cymru . Dim ond ychydig oriau i ffwrdd o rai o ddinasoedd mwyaf Prydain ac eto mae ’ n fyd arall , yn cynnig i ’ r bobl leol ac ymwelwyr fel ei gilydd brofiadau sy ’ n fwy na chymharu ag unrhyw freuddwyd am Galiffornia . Ar ben y traethau a ’ r bariau a ’ r siopau a ’ r bywyd môr anhygoel , yr haf hwn yn Abersoch cewch Ŵyl gerdd a bwrdd-reidio ’ r Glass Butter Beach . Cewch hefyd raglen lawn o gampau athletaidd ar y traeth , regatas hwylio ac Wythnos y Dingi , dal crancod , y ras fecryll a phob math o uchafbwyntiau eraill .
Mae ’ r cyfan i ’ w weld yng Nghylchgrawn Abersoch Sensation , ynghyd â phopeth sydd angen i chi ei wybod am yr holl siopau , bariau a chaffis newydd sy ’ n agor yn y pentref ac o amgylch , beth i ’ w ddarllen ar y traeth yn ôl ein beirniad ni , erthyglau ‘ How to Abersoch ’ ar Ddal Crancod yn yr Harbwr a Physgota Mecryll , un arall yn ein cyfres Chwedlau a ’ r erthygl gyntaf mewn cyfres newydd , ‘ Somewhere only we know ’ sy ’ n eich cyflwyno i harddwch cudd penrhyn Cilan , yma ar drothwy ’ r pentref .
Mae llun y clawr gan John Wormald o Totally Abersoch yn cipio apêl ddigyfnewid y lleoliad rhyfeddol hwn . Mae ’ r rhifyn hwn yn rhoi cipolwg i chi hefyd ar fyd dodrefnu ’ r tŷ gan Rob David , ein golwg ar y chwedlonol Manana ( a ’ r cymeriadau lleol Chris a Leigh Hookes y tu ôl iddo ), a golwg ar y farchnad dai sy ’ n symud yn gyflym ynghyd â ’ r holl ddatblygiadau newydd sydd ar y gweill .
Mwynhewch haf gwych gyda ni ym mhentref eich breuddwydion !
Y Golygydd
| 13